#
|
||||
|
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-5-696 Teitl y ddeiseb: Y trên rhithiol Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trên 7pm Arriva Cymru o Fachynlleth sy’n teithio tua'r gogledd yn aros ym mhob gorsaf ar gais. |
Cefndir
Bydd Trenau Arriva Cymru (Arriva) yn parhau i weithredu masnachfraint bresennol rheilffordd Cymru a'r Gororau tan 2018 gan gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd y Cambrian. Mae rheilffyrdd y Cambrian yn cynnwys dwy lein:
§ Y brif lein rhwng Aberystwyth ac Amwythig a’r tu hwnt; a
§ Lein yr arfordir rhwng Machynlleth a Phwllheli.
Er nad yw masnachfraint y rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli’r fasnachfraint o ddydd i ddydd, gan gynnwys ariannu gwasanaethau yng Nghymru ("gwasanaethau Cymru yn unig"), a’r rheini sy'n cychwyn neu'n gorffen yng Nghymru ("gwasanaethau Cymru"). Mae Deddf Rheilffyrdd 2005 yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru fuddsoddi i wella'r gwasanaeth rheilffyrdd.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar ddatganoli pwerau gweithredol i gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru o 2018 ymlaen. Disgwylir i’r pwerau hyn gael eu datganoli yn 2017, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau paratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu’r fasnachfraint nesaf. Cyn i’r pwerau i ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf gael eu datganoli, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus, Pennu cyfeiriad rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ym mis Ionawr 2016. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y gwasanaethau rheilffyrdd eu hunain, gan gynnwys "gwasanaethau yn y dyfodol". Mae Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi’n awr.
Cafwyd datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, sef y wybodaeth ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a’r Gororau a’r rhaglenni Metro a hynny ar 12 Gorffennaf 2016. Wrth amlinellu'r camau nesaf yn y broses, cyfeiriodd Ysgrifennydd Cabinet at ymgynghoriad cyhoeddus arall:
Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall. Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.
Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru
Y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Genedlaethol
Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2015 a 2020, yn ogystal ag amcanion "tymor canolig" ar gyfer 2020 a’r tu hwnt. Mae hyn yn cynnwys nifer o gynlluniau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys ymrwymiad i "adolygu’r cynlluniau presennol i wella gwasanaethau” rhwng 2016-17 a 2018-19, a chynigion i "gyflwyno gwasanaethau newydd ar brif reilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru”.
Gwella gwasanaethau rheilffordd y Cambrian
Mae Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig - Aberystwyth yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys cynghorau lleol a chynghorau cymuned, grwpiau teithwyr rheilffyrdd, Trenau Arriva Cymru a Network Rail, cynrychiolwyr gwleidyddol a chynrychiolwyr y Llywodraeth.
Ym mis Hydref 2013, comisiynodd y Pwyllgor Cyswllt arolwg i asesu a fyddai nifer y teithwyr yn cynyddu pe bai amserlen rheilffordd y Cambrian yn gwella. Yna, cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad i’r Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, a chyflwynwyd gwasanaethau ychwanegol ym mis Mai 2015, gan gynnwys pedwar gwasanaeth dwyffordd ychwanegol rhwng Aberystwyth ac Amwythig, a gwasanaethau ychwanegol ar lein yr arfordir rhwng Machynlleth a Phwllheli ym mis Mai 2015. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i werthuso'r gwasanaethau hyn dros gyfnod o dair blynedd. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Llywodraeth Cymru yma.
Yn wahanol i wasanaethau’n gynharach yn y dydd, nid yw’r gwasanaeth ychwanegol am 7pm o Fachynlleth i Bhwllheli yn aros ym mhob un o’r gorsafoedd ar ôl Abermaw. Mae’n aros mewn dim ond 7 o’r 17 gorsaf.
Yn adroddiad y Pwyllgor Cyswllt, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016, nodwyd cynnydd o 90% bron yn nifer y teithwyr ers cyflwyno’r gwasanaethau newydd. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn cynnwys canlyniadau arolwg a gynhaliwyd yn 2015 a nododd y dylai trên rheilffordd yr arfordir ex 1900 o Fachynlleth aros yn yr holl orsafoedd yn unol â’r patrwm arferol.
Yn ei lythyr at y Cadeirydd sy’n ymwneud â’r ddeiseb hon, dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn annog Trenau Arriva Cymru i weithio gyda Network Rail i ddatrys y problemau â’r amserlen bresennol. Mae natur y cyfyngiadau hyn yn aneglur. Dywed fod trefniadau gwahanol wedi’u treialu’n ddiweddar.
Camau a gymerwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad gynnal ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, a chyflwynodd ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2013. Roedd yr adroddiad yn cynnwys "Siarter ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau" ac roedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad eang gan:
seilio’r gwaith o ddatblygu llwybrau, lefelau gwasanaeth a gofynion seilwaith y dyfodol ar ddealltwriaeth fanwl o’r ffactorau economaidd gymdeithasol sy’n dylanwadu ar y llifoedd traffig rheilffordd yn ardal Masnachfraint Cymru a’r Gororau a’r senarios o ran y farchnad bosibl a’r galw yn y dyfodol, gan gynnwys llifoedd trawsffiniol.
Er y bu cryn drafod yn y Cynulliad ynghylch gwella gwasanaethau rheilffordd y Cambrian, ni chafwyd trafodaeth ar y mater penodol y mae’r ddeiseb yn ei godi.